
Y cynllun ‘Menywod yn Arbenigo’
Crynodeb
Mae’r cynllun Menywod yn Arbenigo wedi’i anelu at roi ymwybyddiaeth a phrofiad i fenywod sy’n arbenigwyr yn eu pynciau o fod ar y radio a’r teledu. Drwy gymryd rhan mewn ffug-gyfweliadau teledu a thrafodaethau panel ar y radio, mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ddeall ac i ddangos sut i ymgysylltu’n llwyddiannus â’r cyfryngau. Fran sy’n rhedeg y cynllun, a chynhaliodd y diwrnodau Menywod yn Arbenigo yn Academi’r BBC, gan drefnu diwrnodau yn Llundain, Glasgow a City University, a Jim Davis, cyflwynydd gyda BBC Radio London. Jonathan Allen o Batfish Media sy’n gofalu am yr elfen dechnegol, gan drefnu’r camerâu a’r offer sain.

Pam fod angen y cynllun?
Lansiwyd y prosiect Menywod Arbenigol gan yr Athro Lis Howell o City University yn 2014. Dechreuodd fonitro cyfran yr arbenigwyr gwrywaidd i fenywaidd sy’n ymddangos ar raglenni newyddion blaenllaw, a chanfu fod nifer y dynion yn llawer uwch na nifer y menywod. Gellid priodoli rhywfaint o hyn i'r nifer uwch o ddynion mewn rhai proffesiynau penodol, ond ffactor trawiadol yn ymchwil Lis oedd amharodrwydd menywod i gynnig eu hunain ar gyfer ymddangos ar y cyfryngau; amharodrwydd a waethygwyd gan ddiffyg profiad yn y cyfryngau. Mae’r ffigurau diweddaraf o’r ymchwil (2024) yn dangos bod cyfran yr arbenigwyr gwrywaidd i fenywaidd sy’n ymddangos ar y rhaglenni blaenllaw hynny yn hofran tua 4:1, gan ddangos bod angen hyfforddiant cyfryngau penodol o hyd ar gyfer arbenigwyr benywaidd.
Beth mae'r cynllun yn ei gynnwys?
Rydyn ni’n croesawu ymholiadau gan unrhyw sefydliad neu gymdeithas sy’n dymuno rhoi profiad diogel i fenywod sy’n arbenigwyr i ymgysylltu â gwasanaethau teledu neu radio lleol neu genedlaethol, gan gynnwys prifysgolion a cholegau, cyrff diwydiannau, elusennau, cwmnïau neu undebau llafur. Rydyn ni’n cynnal y cynllun dros ddiwrnod, pan fydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i ddeall gofynion ymddangos ar y cyfryngau; cymryd rhan mewn cyfweliadau teledu a rhaglenni trafod ar y radio; rhwydweithio â’i gilydd. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn cael cyfweliad teledu ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar y radio, a rhoddir adborth yn ystod pob cam. Mae cyngor hefyd ar sut i gysylltu â’r cyfryngau a beth i'w ddisgwyl os cewch eich gwahodd i ymddangos ar y radio neu'r teledu.
