


Croeso
Welcome
YnglÅ·n â ni
Cwmni cynhyrchu podlediadau a hyfforddiant cyfryngau yw Morfarch Media. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant sain/radio ac yn cynhyrchu podlediadau am lenyddiaeth a diwylliant Cymru. Am fwy o fanylion, edrychwch ar ein tudalennau Sain a Hyfforddiant.
​
Sefydlwyd Morfarch Media gan Fran Acheson ym mis Ebrill 2025. Mae Fran yn gynhyrchydd radio sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith a chynhyrchodd nifer o raglenni ar gyfer BBC Radio 2, 3 a 4 – o raglenni dogfen a rhaglenni nodwedd i gyfresi byw. Mae Fran hefyd yn hyfforddwraig ysbrydoledig ac wedi arwain hyfforddiant o fewn y BBC ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys pob agwedd ar gynhyrchu radio, ysgrifennu, cynhyrchu syniadau, didueddrwydd a safonau golygyddol. Arweiniodd gynllun hyfforddi ‘Menywod yn Arbenigo’ ar ran Academi’r BBC, lle datblygodd arbenigwyr benywaidd yr hyder a'r wybodaeth i ymddangos ar yr awyr ar ôl diwrnod o brofiadau teledu a radio.
​
Yn ogystal, fe wnaeth Fran ddyfeisio ac arwain menter Lleisiau’r Genhedlaeth Newydd ar gyfer Radio 3, a anelwyd at ddenu talent cyflwyno amrywiol newydd. Roedd hi'n gynghorydd straeon ac yn hyfforddwraig i Ensemble Baroque y Genhedlaeth Newydd ar Radio 3, Ensemble Moliere, gan helpu'r band i adrodd straeon cerddorol apelgar yn ystod eu cyngherddau. Hi yw cynullydd Fforwm Cyflwynwyr Clasurol yr Undeb Darlledu Ewropeaidd.
Mae Fran yn dysgu Cymraeg gyda Phrifysgol Abertawe.

